Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 19 Chwefror 2014

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(182)v2

 

<AI1>

1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)

 

Gweld y Cwestiynau

 

</AI1>

<AI2>

2 Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (45 munud) 

 

Gweld y Cwestiynau

 

</AI2>

<AI3>

3 Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud) 

 

Gweld y Cwestiynau

 

</AI3>

<AI4>

4 Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Ddyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau (60 munud) 

NDM5437 Nick Ramsay (Mynwy)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar yr Ymchwiliad i Ddyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2013.

 

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 12 Chwefror 2014.

 

Dogfennau Ategol

 

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes

Ymateb Llywodraeth Cymru

 

</AI4>

<AI5>

5 Dadl Plaid Cymru (60 munud) 

NDM5438 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi'r gostyngiad o 44% mewn incwm ffermydd ar draws pob math o ffermydd yng Nghymru y llynedd;

 

2. Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i drosglwyddo'r 15% yn llawn o Golofn 1 i Golofn 2 o'r Polisi Amaethyddol Cyffredin a'r gostyngiad dilynol o 23.4% o ran hawliau Cynllun y Taliad Sengl; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth lawn i'r amgylchiadau heriol hyn ac amgylchiadau heriol eraill a wynebir gan y diwydiant amaethyddol ar hyn o bryd wrth iddi gyflwyno diwygiadau i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin, Cynllun Datblygu Gwledig newydd a mentrau polisi gwledig ehangach yng Nghymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r Cynllun Datblygu Gwledig i gyflwyno cynllun Ardaloedd â Chyfyngiadau Naturiol penodol i Rhostiroedd.

 

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn gresynu ymhellach at effaith TB buchol ar incwm ffermydd yng Nghymru a methiant Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r mater pwysig hwn.

 

</AI5>

<AI6>

6 Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) 

NDM5439 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod y gall gofal plant fforddiadwy, hygyrch ac o safon uchel fod yn allweddol i economi gryfach a chymdeithas decach, gan alluogi rhieni i ddychwelyd i'r gwaith, lleihau tlodi plant a rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant.

 

2. Yn croesawu'r camau gweithredu cadarnhaol sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth y DU gan gynnwys buddsoddi £1 biliwn mewn gofal plant i gynyddu addysg gynnar am ddim i bob plentyn tair a phedair oed a'i ymestyn i blant dwy oed o deuluoedd ar incwm isel, cyflwyno gofal plant di-dreth i deuluoedd sy'n gweithio a hawliau newydd ar rannu cyfnodau absenoldeb rhieni.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) adolygu'r system o hawl gofal plant cyn-ysgol yng ngoleuni’r ddarpariaeth well yn Lloegr;

 

b) archwilio effeithiolrwydd Dechrau’n Deg ar rianta a deilliannau datblygu plant a'r anghydraddoldeb yn narpariaeth cyfrwng Cymraeg y blynyddoedd cynnar;

 

c) asesu a yw awdurdodau lleol yn defnyddio cyllid i'r eithaf ar gyfer darpariaeth statudol o ran lleoedd addysg y blynyddol cynnar ar gyfer plant 3-4 oed;

 

d) archwilio ffyrdd o wella'r cyflenwad gofal plant ar draws pob oedran, yn arbennig cynlluniau gofal cofleidiol a gofal plant yn ystod y gwyliau;

 

e) rhoi eglurder i rieni o ran cymhwysedd am gynlluniau gofal plant yng Nghymru yng ngoleuni datblygiadau polisi diweddar Llywodraeth y DU; ac

 

f) cyflwyno un ffynhonnell unigol o wybodaeth ar-lein i helpu rhieni newydd gyda gwybodaeth am wasanaethau gofal plant a hawliau a sut i fanteisio arnynt.

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ym mhwynt 1 dileu popeth ar ôl ‘tlodi plant a’ a rhoi yn ei le ‘helpu plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd.’

 

Gwelliant 2 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi methiant Llywodraeth y DU i weithredu ynghylch credydau treth ar gyfer gofal plant yr ochr hon i’r etholiad cyffredinol, yn mynegi pryder bod adnoddau’n cael eu cymryd oddi ar deuluoedd sydd â’r angen mwyaf ac yn nodi ymhellach bod y rhaglen Cychwyn Cadarn wedi’i dinistrio yn Lloegr, gyda dros 500 o ganolfannau wedi’u cau.

 

[Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ym mhwynt 2, dileu ‘Yn croesawu’r camau gweithredu cadarnhaol’ a rhoi yn ei le ‘Yn nodi’r camau gweithredu’.

 

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn nodi mai ar gyfer Lloegr yn unig y mae’r £1 biliwn o fuddsoddiad mewn gofal plant, gan fod gofal plant yng Nghymru wedi’i ddatganoli.

 

Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu is-bwynt 3a) a rhoi yn ei le ‘asesu’r system hawl i ofal plant cyn-ysgol’.

 

Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Yn is-bwynt 3e), dileu popeth ar ôl ‘yng Nghymru’.

 

Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu is-bwynt 3f).

 

[Os derbynnir gwelliant 7, bydd gwelliant 8 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 8 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Dileu is-bwynt 3f a rhoi yn ei le:

 

ystyried beth yw’r ffordd orau o ddarparu gwybodaeth i rieni am wasanaethau gofal plant, eu hawl iddynt a sut i’w cael.

</AI6>

<AI7>

Cyfnod Pleidleisio

</AI7>

<AI8>

7 Dadl Fer (30 munud) 

NDM5431 Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru)

 

Agor y Porth i Gymru

 

Sut i adfywio economi de-ddwyrain Cymru.

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 4 Mawrth 2014

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>